Mae gan Gymru lawer o adeiladau fferm sydd wedi cael eu
adnewyddu i safon isel iawn…dim byd tebyg i hon! Mae
Blaentrothy bach yn wahanol iawn i’r gweddil, gan
gynnig adeilad o safon uchel iawn, llawn steil a chysur.
Lle perffaith i ddau berson.
I weld y lleoliad, cliciwch
yma – lle tawel gwledig ond hawdd i’w gael
ato, yn agosach i Loegr nag unrhyw un o’n eiddo eraill.
Llundain – 3 awr i ffwrdd gydag car
Bristol – 1 awr i ffwrdd
Birmingham – 1.5 awr i ffwrdd>
Mae’r bwthyn yn 7 filltir i ffwrdd o orsaf dren
Y Fenni, ac allwn drefnu eich codi i fyny o’r orsaf
(gofynnwch am fwy o wybodaeth).
Wedi ei greu o stablau o’r fferm wreiddiol o’r
17fed Ganrif ac wedi ei leoli yn y Mynyddoedd Ddu, mae Blaentrothy
bach yn le perffaith i ddod i aros os mae tawelwch rydych
eisiau. Mae’r fferm dal yn cael ei ddefnyddio i ffermio
defaid, ac mae’r ysgubor hardd gyferbyn yn dal yn
cael ei ddefnyddio i ddal gwellt ac oen bach yn nhymorau
cenedlu.
Mae’r bwthyn wedi ei adnewyddu gan ddefnyddio defnyddau
traddodiadol lleol, i greu awyrgylch cyfoes iawn i ddau
berson mewn amgylchedd agored a phrydferth.
Mae’r llawr gyntaf yn agored iawn gydag lolfa (TV/DVD)
a chegin (microwave/ dishwasher), toiled a chyntedd.
I fyny’r grisiau mae ystafell gysgu cyfoes iawn
gydag bath ‘roll-top’ a sinc thebyg. Mae gwresogi
gannol i’w gael drwyddo gyda gwresogydd drydan ychwanegol
yn y lolfa.
Mae’r bwthyn yn gorfedd gyferbyn ty-fferm yn y wlad,
gyda’r mynyddoedd Skirrid a Sugar Loaf i’w weld
yn y pellter. Mae’r bwthyn wedi ei leoli’n wych
ar gyfer crwydro’r tirlun leol. Yn ogystal, mae tri
chastell i’w gael o fewn ychydig o filltirau o’r
bwthyn.Mae dinas Caerdydd o fewn pellter weddol agos i’r
bwthyn yn ogystal a Henfordd ac Y Gelli Gandryll.O amgylch
y bwthyn mae lawer o weirdir blodau sydd o brinder, sydd
yn gwneud yr adeilad hon yn safle arbenning o ddiddordeb
wyddonol.
I’r rhai ohonoch sydd yn hoffi cerdded, mae Clawdd
Offa yn agos, a mae lawer o lwybrau wedi ei sefydlu sy’n
arwain yn syth o’r fferm. Allwch hyd yn oed gerdded
trwy’r caeau i’r dafarn leol! Mae’r ardal
yn dda iawn ar gyfer siopa a bwyta, gydag nifer o fwytau
i ddewis ohono. Mae pentref Grosmont dim on dau filltir
o’r fferm.
I gyrraedd y fferm, mae llwybr chwarter milltir o hyd,
sydd yn gallu bod yn annodd i’w groesi yn nhymor y
gaeaf yn enwedig, ond peidiwch a phoeni, mae gan y fferm
cerbyd addas ar gyfer adegau fel hyn! Yn ogystal, mae eiddo
arall sydd yn berthyn i ni sef carafan
sipsiwn dim ond cae i ffwrdd o’r fferm.
Os oes baban da chi, mae’r bwthyn hon yn un o’n
gorau i chwi, allwn ddarparu cot a giatau baban addas ar
eich cyfer os bydd angen (cofiwch ddod a dillad gwely baban
eich hyn).
Amser cyrraedd yw 4pm, amser gadael yw 10.30am oni bai
bod chwi wedi trefnu rhywbeth gwahanol o flaen llaw. Mae
croeso i fyny i ddau gi aros yn yr adeilad (gwelwch isod),
ond byddwch yn ddoeth gan fod yno ddefaid yn y caeau gyferbyn
a mae ci arall i’w gael ar y fferm.