Bwthyn carreg traddodiadol hardd yw Penbont a leolir mewn
12 erw o ddolydd a choetir preifat ger traeth Penbryn yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol (un o’r harddaf ym Mhrydain).
Mae’r môr o fewn pellter cerdded, neu cewch
aros gartref a mwynhau’r golygfeydd, y lleoliad tawel
a’r bywyd gwyllt yn y caeau sydd at eich defnydd unigryw
chi. Mae’r caeau wedi’u ffermio’n organig
felly mae cryn dipyn o flodau a bywyd gwyllt.
Mae Penbryn yn draeth cwbl ddiddinistr heb unrhyw ddatblygiad
o’i gwmpas. Mae’n un o’r traethau hwyaf
yn y bae, ond yn un o’r tawelaf yn aml. Mae taith
hyfryd ar droed drwy’r coed sy’n cynnwys toreth
o’r rhedyn gorau yng Nghymru.
Gall hyd at 8 gysgu ym Mhenbont mewn tair ystafell wely
(6 sy’n ddelfrydol). Mae ganddo erddi hardd ar y ddwy
ochr a chytiau fferm traddodiadol, awyrgylch ‘gwledig’
heb ei ail ar y tu mewn a chelfi a ffitiadau o ansawdd uchel
iawn. Mae golygfa wledig braf o bob ystafell (ffenestri
codi gwreiddiol) a drws ‘hanner’ arddull bwthyn
allan i’r ardd. Dim cymdogion yn agos!
Mae’n wych i deuluoedd am fod digonedd o le tu allan,
a chaniateir anifeiliaid anwes sy’n ymddwyn yn dda
rhwng mis Hydref a Mai (pan gânt hefyd fynd ar y traeth).
Addas hefyd i’r rheiny sy’n chwilio am rywle
rhamantus a thawel i ddianc!
Er mai hwn yw un o fythynnod carreg harddaf Ceredigion,
rydym yn ei garu oherwydd ei leoliad. I’r blaen gwelwch
eglwys hynafol St Michael ar y bryn (un o’r eglwysi
mwyaf rhamantus yng Nghymru), i’r ochr gallwch weld
i lawr i fae Ceredigion, ac mae’r caeau o amgylch
yn perthyn i Benbont. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol biau’r
tir cyffiniol, ac mae mynediad hwylus i lwybr troed adnabyddus
yr arfordir.
Mae siop de’r Ymddiriedolaeth o fewn 5 munud ar
droed (Sylwer: oriau agor tymhorol) neu mae bwyd môr
gwych o fewn dwy filltir yn nhafarn y Ship yn Nhresaith
(sy’n edrych dros draeth Tresaith) neu ym mhentrefi
cyfagos Llangrannog, Aberporth ac ati. Mae gwres drwy’r
bwthyn (storio gyda’r nos) a llosgwr pren mawr yn
y lolfa gyfforddus. Mae matiau morwellt, gwaith celf gwreiddiol
a llawer iawn o syniadau personol neis. Cliciwch YMA
i weld map o’r lleoliad.
Llawr Gwaelod:
Lolfa gyda 2 soffa hynod gyfforddus, cadeiriau siglo, llosgwr
coed, teledu, chwaraewr DVD ac ati
Cegin Ffermdy gyda Rayburn traddodiadol
a chwcer trydan cyfoes, ffwrn meicrodon ac ati, bwrdd pîn
ffermdy gyda lle i 6 eistedd.
Lan Lofft
Ystafell wely 1: Gwely dwbl gyda ffenestri
ar ddwy ochr
Ystafell wely 2: Ystafell deuluol fawr
gyda gwely dwbl a gwelyau bync (gall 4 gysgu yn yr ystafell)
Ystafell wely 3: Ystafell fach gyda gwelyau
bync (gall 2 gysgu yn yr ystafell)
Ystafell ymolchi deuluol: bath gyda chawod
uwchben, maint cyfforddus.
Tu Allan:
Feranda i flaen y ty a gardd fwthyn fach
Patio i’r ochr gyda set batio tîc,
gerddi prydferth teras pellach
Dôl a choetir, nant ac ati (12 erw i gyd)
Cytiau fferm: ysgubor wair, beudy ac ati.
Parcio i 4 car ar y mwyaf
Noder: caniateir cwn sy’n ymddwyn yn dda rhwng mis
Hydref a Mai (ffi ychwanegol o £10 am un anifail,
£15 os bydd dau’n aros, £20 am dri)
Beth sydd i’w wneud yn lleol?
Aros 'gartref’ ac ymlacio a chrwydro’r tir
fferm sydd at eich defnydd unigryw chi
Bwyta allan ar fwyd môr lleol a
chynnyrch organig (dewis o lefydd bwyta o fewn 3 milltir,
siop fferm ragorol sy’n gwerthu holl fwydydd organig
a moethus Ceredigion, dim ond 3 milltir i ffwrdd).
Cerdded i lawr i’r traeth (tua
12 munud, 600 llath) neu ddilyn llwybr troed yr arfordir
Mynd ar daith cwch (5 milltir i’r
Ceinewydd) i weld dolffiniaid yn agos
Dilyn Llwybr Bwyd Gorllewin Cymru - am
gawsiau a samwn gorau Prydain ac ati! Mae ‘smokery’
Rhydlewis tua 5 milltir i ffwrdd.
Mynd am daith am y dydd i Sir Benfro
neu Eryri
Crwydro trefi marchnad lleol Llandysul,
Llanbedr Pont Steffan, Tregaron neu Aberteifi
Ymlacio a mwynhau’r llonydd, y
tawelwch a’r golygfeydd godidog sy’n brydferth
mewn unrhyw dywydd.