Bwthyn traddodiadol, gwyngalchog yw Pen-y-Parrog, yn cysgodi wrth waelod y creigiau ar ddiwedd y Parrog yn Abergwaun. Ar waelod yr ardd, mae'r môr yn ei ogoniant – neu os yw dwr-y-mor yn rhy oer i chi, mae'n gysurus yn y twba twym, nos neu ddydd, glaw neu hindda.
Dim ond camu o'r lawnt sydd eisiau a byddwch ar y traeth, sy'n hoff le i nifer o adar gwyllt. Ond efallai dewis aros yn yr ardd y gwnewch chi, i ymlacio yn y twba twym, sydd mewn ty bach twt iddo'i hun, a golygfeydd gwych o Pen Dinas a'r gorwel pell.
Cafodd Pen-y-Parrog gyfle i fod yn fyd enwog unwaith! Pan ffilmiwyd Under Milk Wood gan Dylan Thomas yn y cwm yn Abergwaun, defnyddiwyd Pen-y-Parrog fel cartre Rosie Probert, a actiwyd gan neb llai nag Elizabeth Taylor ei hun.
Mae'r bwthyn yn nodweddiadol iawn o'r traddodiad lleol, gyda tho llechi wedi ei orchuddio'n llwyr, fel llawer o'r rhai tebyg yng Ngogledd sir Benfro. Adnewyddwyd y bwthyn yn llwyr yn 2007 ac mae'r dodrefnu nawr yn ffres a chwaethus.
Cymysgedd o dywod a cherrig mân yw'r traeth; lle da i gasglu cregyn gleision i swper. O'r ty bach twt pren, gallwch eistedd yn y dwr twym a rhyfeddu at yr olygfa ar yr un pryd. Gyda'r drysau ar gau, rydych yn glyd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro wrth y drws, yn llythrennol, ac bydd rhyfeddodau'r arfodir yn sicrhau gwyliau gwych i unrhyw un sy'n hoffi cerdded. Mae llwybr beicio sy'n rhan o'r Rhwydwaith Cenedlaethol, hefyd yn pasio heibio i'r bwthyn.
Slawer dydd, bythynnod morwyr oedd y casgliad bychain o gartrefi ar y pen yma i'r Parrog, sy'n rhedeg o waelod Abergwaun draw i Wdig ar hyd y traeth. ‘Mariner' oedd yn byw yma yn 1820.
Dyma ein bwthyn mwyaf hwylus os byddwch yn cyrraedd ar drafnidiaeth cyhoeddus. Gallwch gerdded o'r orsaf dren, gallwch feicio neu gerdded ar hyd llwybrau pwrpasol, neu hyd yn oed gerdded i'r harbwr a chroesi i'r Iwerddon am lai nag £20!
Am ragor o luniau o'r bwthyn, pwyswch fan hyn; neu dewiswch weld llun o'r awyr sy'n dangos to Pen-y-Parrog; ac mae map hefyd ar gael.
- Offer pwrpasol, ffwrn feicrodon a ffwrn nwy, oergell, peiriant golchi llestri, bwrdd i gael brecwast a golygfa wych o'r môr wrth i chi baratoi cinio.
Mae un stafell fawr yn rhedeg o un pen y bwthyn gwreiddiol i'r llall. Mae llosgwr coed effeithiol (a basgedaid o goed tân am ddim), 3 soffa (un yn wely-soffa) a ford ar gyfer o leiaf 8 person. Drysau Ffrengig yn arwain mas i'r ardd a golygfa wych. Grisiau i'r llofft. Teledu a pheiriant DVD.
Cawod ddwbl, dwr o'r prif system wresogi.
, gyda pheiriant awtomatig arferol. Lein ddillad tu fas.
- Dyma'r stafell gyda'r olygfa orau o'r cyfan, a chadair esmwyth o'i blaen. Llawr derw newydd, fel yng ngweddill y bwthyn.
ddwbl a stafell en-suite newydd ar y pen gyda chawod ynddi.
yn cynnwys dau wely ‘bunk', delfrydol ar gyfer plant.
Mae gwres canolog nwy yma, a'r llosgwr coed ar ben hynny.
gyda digon o le ynddi, caban pren sy'n cynnwys y twba twym, barbeciw nwy, celfi eistedd a bwyta tu fas. Noder nad oes unrhyw ffens na iet rhwng yr ardd a'r traeth, felly byddai angen gofal cyson ar blant bach.
Ymlacio a mwynhau ar lan y môr – dyna yw nod y mwyafrif. Ond gallwch hefyd grwydro i fannau dramatig fel Pen Strwmbwl a Phwllderi, a dilyn Llwybr yr Arfordir faint a fynnoch. Ewch i weld y goleudy neu i wylio dolffiniaid a morloi ar rai adegau o'r flwyddyn.
Mae dewis eang o draethau Baner Las yn yr ardal hon. Os hoffech syrffio, mae Traeth Mawr ger Tyddewi yn wych. Pwyswch yma i weld sut donnau sydd yn cael eu haddo ar ddiwrnod arbennig.
Does dim prinder o gestyll ac adeiladau hanesyddol yn y sir chwaith. Neu ewch i ryfeddu at yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi. Taith car o ryw 25 munud.
Os oes diddordeb gyda chi mewn gwaith celf, byddwch yn dwlu ar yr ardal hon, lle mae cynifer o artistiaid yn byw. Yn eu plith y mae Chris Neale, sy'n hoff iawn o ddarlunio bythynnod traddodiadol tebyg i Pen-y-Parrog.
Os am wybod mwy am sir Benfro ewch i'r wefan ardderchog sydd gan y sir.
Petaech rhyw ddiwrnod yn syrffedu ar y môr, mae Mynydd y Preseli yn llawn rhyfeddodau a chysylltiadau â'n llenyddiaeth.
Mae harbwr Wdig ar ben arall y Parrog, ac o fanna gallwch hwylio i Iwerddon. Mae siopau bwyd, tafarnau ac ati yn Wdig hefyd.
Dringwch lan y rhiw a chewch weld trysorau bach yn nhref Abergwaun, yn siopau, orielau a bwytai (rydym yn hoff iawn o'r un Eidalaidd). Mae cofeb fach dwt i D.J.Williams a llun mewn brodwaith o gamp Jemima Niclas yn erbyn y Ffrancwyr ymhlith y pethau mwyaf difyr i ni'r Cymry. Am bethau cain i'r ty, beth am ymweld â Melin Tregwynt?
Mae digon o ddewis a digon o arweiniad hefyd os yw'ch bryd ar fwyta'n dda.. Rydym yn argymell Llys Meddyg yn Nhrefdraeth os bydd achlysur arbennig i'w ddathlu.