Mae Rhiwson Uchaf yn darparu safle hunanarlwyo a enillodd
5* gan Fwrdd Croeso Cymru mewn lleoliad tawel yn Nyffryn
Teifi ger Llanbedr Pont Steffan. Mae’r ty hir hanesyddol
a diddorol hwn yn mwynhau golygfeydd godidog ac mae wedi’i
leoli mewn 180 erw o ffermdir diddiwedd y gallwch grwydro’n
rhydd drwyddo.
Wedi’i adeiladu tua 1710, hwn yw ein hadeilad hynaf,
a hefyd y mwyaf (yn cysgu chwech a chrud babi mewn tair
ystafell wely fawr).Mae’r to gwellt hynafol wedi’i
warchod o dan haenen o dun ers yr 1920au, ac mae Rhiwson
bellach wedi’i ddynodi’n adeilad Rhestredig
Gradd II* oherwydd ei ddiddordeb pensaernïol eithriadol.
Mae ganddo gyfarpar da, yn ddelfrydol i deuluoedd, a hefyd
dwy ystafell ymolchi fodern.
Ond yr hyn rydym ni’n ei hoffi orau amdano yw ei
leoliad gwirioneddol dawel a phrydferth - lle gwych i ddianc
rhag bywyd bod dydd. Mae golygfa wledig braf o bob ffenestr,
heb yr un ffordd fawr i’w gweld na’i chlywed.
Mae’n lleoliad gwirioneddol heddychlon i ‘ddianc
rhag popeth’. Mae’n ddelfrydol i deuluoedd,
mae digon o le diogel y tu allan i blant gael chwarae a
chrwydro.
Mae tafarn wledig tua 1.5 milltir i ffwrdd (ar droed ar
hyd lôn wledig dawel), neu dafarn sy’n gweini
bwyd rhagorol (2 filltir). Gwres canolog llawn bobman. Cliciwch
YMA.
Cegin gyda ffwrn, meicrodon ac ati.
Lolfa gyda 2 soffa, cadeiriau breichiau,
Rayburn olew, teledu, DVD, chwaraewr CD ac ati.
Ystafell fwyta gyda seddi i 6 a chadair
uchel.
Ystafell wely 1: Gwely dwbl a chrud.
En-suite.
Ystafell wely 2: Gwely maint anferth.
Ystafell wely 3: Dau wely sengl.
Ystafell ymolchi deuluol: bath gyda chawod
uwchben.
Ystafell Amlbwrpas: Peiriant Golchi,
oergell-rhewgell.
Gardd (gaeëdig) gyda phwll melin
(caeëdig), perllan, celfi bwyta. Mynediad rhydd i 180
erw o ffermdir preifat. Siglen ddwbl i blant.
Noder: caniateir dau gi bach ar y mwyaf sy’n ymddwyn
yn dda (£10 o dâl ychwanegol am un anifail anwes,
£15 os bydd dau yn aros)
Beth sydd i’w wneud yn lleol?
Aros 'gartref’ ac ymlacio, gwylio’r
barcutiaid coch a chrwydro’r tir fferm.
Bwyta allan ar fwyd môr lleol a
chynnyrch organig.
Gyrru i’r arfordir (13 milltir i’r Ceinewydd,
ryw 25 munud). Mynd am dro ar droed ar hyd yr arfordir.
Mynd ar daith cwch (Ceinewydd) i weld
y dolffiniaid yn agos.
Dilyn Llwybr Bwyd Gorllewin Cymru - am
gawsiau a samwn gorau Prydain ac ati!
Gyrru i’r arfordir (13 milltir i’r Ceinewydd,
ryw 25 munud). Mynd am dro ar droed ar hyd yr arfordir.
Mynd am daith i Sir Benfro
neu Eryri am y dydd
Crwydro trefi marchnad lleol Llandysul,
Llanbedr Pont Steffan, Tregaron neu Aberteifi
Ymlacio a mwynhau’r llonydd, y
tawelwch a’r golygfeydd o’r dirwedd sy’n
brydferth mewn unrhyw dywydd.