Cliciwch yma
i darllen erthygl am Wendy o'r papur newydd The Guardian.
Mwynhewch rai o olygfeydd gorau Cymru o’r ‘Aberporth
Express’ – ein coets reilffordd Edwardaidd sydd
wedi ei thrawsnewid a’i lleoli ar lwybr treftadaeth
yr arfordir ger Aberporth.
Adeiladwyd ein coets reilffordd anhygoel ym 1905 ar gyfer
y Great Western Railway a chafodd yr enw Wendy ar ôl
y cymeriad yn ‘Peter Pan’ (a gyhoeddwyd y flwyddyn
gynt). Cadwyd yr enw oherwydd y credwn fod rhywbeth hudol
am ein hoff gartref gwyliau! Ar ôl teithio ar hyd
a lled lein y Great Western rhwng Lloegr a Chymru, ymddeolwyd
Wendy o’i gwasanaeth ym 1937.
Yr arhosfan olaf i Wendy oedd llwybr Treftadaeth Arfordir
Ceredigion. O’r safle yma mae wedi mwynhau golygfeydd
panoramig dros Fae Ceredigion a’i fywyd gwyllt a thrawiadol
ers bron i saith deg o flynyddoedd bellach. Ni fyddai’n
bosib cael caniatâd heddiw i adeiladu unrhyw beth
yn y llecyn prydferth anghysbell yma, ac oherwydd hynny
rydym yn teimlo’n hynod falch mai ni yw perchnogion
yr ‘adeilad’ prin yma.
Mae’r ystafell haul yn y blaen yn cynnig rhai o’r
golygfeydd gorau yng Ngorllewin Prydain. Gallwch gerdded
ar hyd coridor y goets wreiddiol, hyd yn oed, i fynd i’r
ystafelloedd gwahanol.
Mae’r Aberporth Express yn cynnig un o’r cyfleoedd
gorau i weld y gytref fwyaf o ddolffiniaid trwynbwl yn Ewrop,
ynghyd â llu o fywyd gwyllt arall, gan cynnwys morhychod
a morloi llwydion. Mae un o’r morloi mwyaf cyfeillgar
yn ymddangos yn y dwr islaw safle Wendy am 6 yr hwyr bron
bob dydd!
Mae’r mynediad uniongyrchol o giât yr ardd
i lwybr treftadaeth yr arfordir yn golygu bod hwn yn safle
delfrydol i archwilio arfordir Gorllewin Cymru. Gallwch
fynd i lawr i’r traeth o flaen ‘Wendy’
(mae’r creigiau’n wych ar gyfer deifio) ac mae’r
traethau tywodlyd, glân o fewn 400 llathen ar droed.
Mae tafarn, siop y pentref a safle cludfwyd o fewn 5 munud
ar droed.
Mae’r Aberporth Express yn cysgu 5 (+ crud babi)
mewn dwy ystafell wely fawr. Mae golygfeydd godidog o’r
wlad neu’r môr o bob ystafell. Caeau i’r
cefn a môr i’r blaen. Safle tawel heb ffyrdd
o fewn 300 llath na smic na llygredd swn!
Gegin: gyda ffwrn, meicrodon ac ati.
Lolfa: gyda 2 soffa, tân trydan
Ystafell fwyta: gyda golygfeydd arbennig
Ystafell wely 1: Gwely dwbwl a chrud
Ystafell wely 2: Gwely dwbwl a gwely sengl
Ystafell gawod: cawod drydan
Toiled:
Ystafell haul: y tu blaen
Gardd gaeëdig gyda mynediad i’r
traeth a’r môr.
Noder, oherwydd leoliad arbennig yr Aberporth Express
nid oes modd gyrru cerbyd yno – yr unig ffordd i mewn
i’r goets yw ar hyd llwybr (gwastad, grafel) yr hyd
yr arfordir, am 300 llath (4 munud) o’r safle parcio
(sydd yn rhad ac am ddim).
Rydym yn bwriadu cau ar 25 Medi 2006 ac ailagor ar 20 Hydref
ar ôl adnewyddu dodrefn mewnol a gwneud addasiadau:
1. Gosod ymolchdy yn y brif ystafell wely
2. Ychwanegu drysiau Ffrengig yn y cefn
3. Adnewyddu’r arwyddfyrddau GWR gwreiddiol
4. Adnewyddu’r lloriau pren i gyd
5. Gosod tânau llosgi coed (2)
6. Creu patio yn y cefn
7. Gosod dodrefn newydd i gyd
Beth sydd i’w wneud yn lleol?
Aros ‘gartref’ a gwylio bywyd
gwyllt y môr.
Bwyta allan ar fwyd môr lleol (gellir
dal cimychiaid yn uniongyrchol o flaen Wendy).
Cerdded ar hyd yr arfordir i’r y
pentref nesaf, Tresaith, i weld y rhaeadr wrth ymyl y traeth.
Mynd ar daith hwylio i weld y dolffiniaid
yn agos
Dilyn Llwybr Bwyd Gorllewin Cymru - am
gawsiau a samwn gorau Prydain!
Mynd i Sir Benfro am y diwrnod (dim ond
25 munud mewn car).
Mwynhau cerddoriaeth, y theatr, ffilmiau
ac arddangosfeydd crefft yn Theatr Mwldan gyfagos.
Gwylio machlud anhygoel yr haul o’ch
cartref gwyliau anhygoel.
Ymlacio a mwynhau’r llonydd, y tawelwch
a’r golygfeydd dros y dirwedd sy’n hardd mewn
unrhyw dywydd.